Diben y Grŵp:

Codi ymwybyddiaeth a gwella'r driniaeth a'r cymorth sydd ar gael i bobl ag anhwylderau gwaedu a etifeddwyd.

 

Aelodau'r Grŵp

Julie Morgan AC, Cadeirydd

Lynne Kelly, Ysgrifennydd, Haemoffilia Cymru

Mick Antoniw AC

William Graham AC

Kirsty Williams AC

 

Nid yw'r grŵp wedi cyfarfod ag unrhyw lobïwyr proffesiynol.

Cyfarfu'r Grŵp deirgwaith: ym mis Tachwedd 2014, mis Mehefin 2015 a mis Tachwedd 2015

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia a Gwaed Halogedig a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014:

Yn bresennol:

Julie Morgan AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol

Jane Hutt AC

Mick Antoniw AC

David Rees AC

Temmy Woolston, Cynorthwyydd Vaughan Gething

Sian Mile,  Cynorthwyydd Julie Morgan

Lynne Kelly, Cadeirydd Haemoffilia Cymru

David Thomas, Ymddiriedolwr Haemoffilia Cymru

Pat Summers, Ymddiriedolwr Haemoffilia Cymru

Tony Summers, Ymddiriedolwr Haemoffilia Cymru

Richard Gorman, Ymddiriedolwr Haemoffilia Cymru

 

Ail-etholwyd Julie Morgan yn Gadeirydd a Lynne Kelly yn Ysgrifennydd; diolchodd y Grŵp i'r ddwy am eu gwaith yn ystod y flwyddyn. Mae'r swydd Hepatolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru bellach wedi'i hysbysebu ac mae rhywun wedi'i benodi i swydd y Ffisiotherapydd Hemoffilia yn Abertawe. Ariannodd y Polisi Comisiynu Dros Dro driniaeth ar gyfer dau berson sy'n dioddef o Haemoffilia a oedd wedi cael Hepatitis C drwy gynhyrchion gwaed y GIG cyn cymeradwyaeth NICE. Cytunwyd y byddai'r Grŵp Trawsbleidiol yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd ariannu'r driniaeth newydd ar gyfer Hepatitis C ar gyfer pobl sy'n dioddef o Haemoffilia gyda Hepatitis C a oedd wedi methu mewn perthynas â thriniaethau Hepatitis C yn seiliedig ar Interferon yn flaenorol.  Trafodwyd y diffyg cymorth ariannol a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Macfarlane, Cronfa Skipton a Chronfa Caxton.  Roedd y toriadau i'r grant gwisg ysgol a lwfans tanwydd y gaeaf yn achosi caledi cynyddol heb ddarpariaeth ar gyfer yswiriant bywyd na diogelwch o ran morgais. Nododd y Grŵp y byddai Adroddiad Penrose ac Ymchwiliad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol i Gymorth Ariannol ar gyfer Pobl sy'n dioddef o Haemoffilia ac sydd â Gwaed Halogedig yn adrodd yn 2015.

 

Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2015 yn Nhŷ Hywel

Julie Morgan AC

Lynne Kelly, Haemoffilia Cymru

Nancy Cavill cynorthwyydd Julie Morgan

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw AC, William Graham AC, David Thomas a Craig Sugar.

 

Bu'r grŵp yn trafod cyhoeddi Ymchwiliad Penrose yn yr Alban ac ymddiheuriad y Prif Weinidog i bobl sy’n dioddef o haemoffilia a heintiwyd â HIV a Hepatitis C drwy gynhyrchion gwaed halogedig y GIG ar 25 Mawrth 2015.  Nodwyd fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol bellach wedi ailgynnull, dan gadeiryddiaeth Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Gyfarwyddwr Meddygol. Croesawyd hyn gan y Grŵp i helpu i fynd i’r afael â bylchau parhaus mewn gofal Hepatoleg Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru a mynediad at gyffuriau Hepatitis C newydd i gleifion Cymru.

 

Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2015 yn Y Senedd

Yn bresennol

Julie Morgan AC

Lynne Kelly, Haemoffilia Cymru

David Thomas, Haemoffilia Cymru

Nancy Cavill, Cynorthwyydd Julie Morgan

Ymddiheuriadau: Mick Antoniw AC

 

Bu'r grŵp yn trafod penodiad Dr Brijesh Srivastasva, Hepatolegydd Ymgynghorol Ysbyty Athrofaol Cymru a’r £14miliwn o gyllid ar gyfer cyffuriau Hepatitis C newydd a gyhoeddwyd gan Mark Drakeford ym mis Hydref. Llongyfarchwyd y Grŵp Trawsbleidiol ar ei waith yn helpu i sicrhau'r ddau. Nodwyd fod y cymorth ariannol a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Macfarlane, Cronfa Skipton a Chronfa Caxton i bobl sy’n dioddef o haemoffilia a heintiwyd â gwaed halogedig, ynghyd â diffyg yswiriant bywyd a diogelwch o ran morgais yn parhau i achosi trallod. Bu cynnydd yn nifer y grantiau caledi a ddarperir gan Haemoffilia Cymru i gleifion sydd mewn angen dybryd. Yn San Steffan, mae manylion yr ymgynghoriad i gael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Byddai’r Grŵp Trawsbleidiol yn egluro dull ariannu’r cyffuriau Hepatitis C newydd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o haemoffilia sy’n byw y tu allan i Fwrdd Iechyd Lleol eu Canolfan Hemoffilia.

 

Datganiad Ariannol 2014-2015 y Grŵp Trawsbleidiol ar Haemoffilia a Gwaed Halogedig:

 

Treuliau’r grŵp: dim

Cost yr holl nwyddau: dim

Buddiannau a dderbyniwyd gan y grŵp / unigolion / aelodau o gyrff allanol: dim

Cymorth ysgrifenyddol: ni dderbyniwyd unrhyw gymorth ariannol.